Mae Plas Brondanw yn gartref i gaffi hyfryd sydd wedi’i leoli yn y gerddi godidog lle ceir golygfeydd eang o’r dirwedd ddramatig sy’n amgylchynu’r ystad.
Caffi Plas Brondanw yw’r lleoliad delfrydol i flasu cynnyrch lleol Cymreig ar ei orau tra’n mwynhau llonyddwch y gerddi. Rheolir y caffi gan Mrs Lowri Jones, sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad am y fro yn ogystal â’r gegin. Cafodd Lowri ei magu ar Ystad Brondanw ac mae’n byw yma hyd heddiw.
Grwpiau Mawr
Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer grwpiau bws a phartïon mawr, felly cysylltwch â ni. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01766 772 772 neu anfonwch e-bost atom.
Bydd unrhyw elw o’r caffi yn cyfrannu at y gost o gynnal a chadw’r ardd.
Bydd y caffi ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10am – 4pm, yn ystod misoedd yr haf. Hefyd, edrychwch ar yr adran Newyddion neu ar dudalen facebook y caffi i gael y diweddaraf am yr amseroedd agor a chau yn ystod y gwahanol dymhorau. Bydd nifer o nosweithiau bwyd yn cael eu cynnal rhwng Tachwedd a Mawrth.
Mae’r fwydlen yn canolbwyntio ar gynnyrch cartref a lleol pryd bynnag y bo modd. Hefyd, mae caws pob a saladau dyddiol yn eitemau poblogaidd ar y fwydlen arbennig.
Cliciwch yma i weld ein bwydlen.
Gallwn arlwyo ar gyfer achlysuron arbennig, boed yn fedydd, yn barti preifat neu’n briodas. Rydym yn lleoliad cofrestredig ar gyfer priodasau a seremonïau sifil.
Manylion cyswlltGerddi Plas Brondanw |
Ffôn: 01766 772772 |