Mae pentrefi Garreg a Chroesor ym mhlwyf Llanfrothen.
Mae pentrefi Llanfrothen a Chroesor, lle lleolir ystâd Brondanw, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn sir Gwynedd. Cânt eu hamgylchynu gan dirwedd fendigedig. Mae copaon eiconig y Cnicht, Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach yn ffurfio ochrau dyffryn cul Croesor, ac yn gefnlen ddramatig i dai hanesyddol yr ystâd. Dyma darddiad afon Croesor sy’n ymdroelli i lawr y cwm, gan ffurfio nifer o byllau dwfn a rhaeadrau dramatig ar ei ffordd. Yn y pen draw, mae’n ymuno ag afon Glaslyn ar dir adferedig gwastad y Morfa, a grëwyd pan gwblhawyd Cob Porthmadog ym 1811.
Byw Bod: byw-bod.cymru
Cyngor Cymuned Llanfrothen: llanfrothenacroesor.org/
Oriel Caffi Croesor: orielcafficroesoratcnicht.co.uk
Prosiect Gweilch Glaslyn glaslynwildlife.co.uk
Siop y Garreg: facebook.com/Ygarreg
Oriel Brondanw: orielbrondanw.org