English

Ynni

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Ymddiriedolwyr wedi adeiladu dau gynllun hydrodrydanol ar yr Ystad.

Mae’r naill ar Afon Maesgwm a’r llall ar Afon Croesor, sy’n defnyddio dŵr yr afonydd i gynhyrchu trydan trwy dyrbin cyn gollwng dŵr yn ôl i’r afonydd. Cytunwyd ar gyfyngiadau tynnu dŵr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn gwarchod ecosystem yr afonydd. Mae’r llifddorau (mewnfeydd) wedi’u gosod mewn modd a fydd yn sicrhau na fyddwn byth yn tynnu mwy o ddŵr na’r terfynau a osodwyd. Mae pob cynllun yn cynhyrchu digon o ynni i ddarparu trydan i oddeutu 100 o dai. Uchelgais yr Ymddiriedolwyr yw cyflunio’r cynlluniau yn y dyfodol fel y bydd modd defnyddio’r ynni a gynhyrchir ganddynt yn lleol, er budd y gymuned leol. Dyma’r partneriaid a’n helpodd i gyflawni’r prosiectau hyn:

GH Jones, Pwllheli
Keim Water, Ludlow
Renewables First, Stroud


Mae gan Blas Brondanw foeler biomas sy’n darparu gwres a dŵr poeth cynaliadwy i Blas Brondanw, 1-3 Bwthyn, Penstep, Twll Wenci, y Porthdy, yr Orendy a Chaffi Plas Brondanw. Mae’r cynllun yn defnyddio oddeutu 100 tunnell o bren bob blwyddyn. Daw’r pren hwn o Ystad Brondanw ac mae’n cael ei dorri’n sglodion ar y safle gan gontractwr lleol sydd, yn ei dro, yn rheoli’r boeler. Boeler llosgi pren ETA Hack 200KW sydd ym Mrondanw, ac mae’r holl denantiaid sy’n ei ddefnyddio yn dweud bod y safon a chostau byw wedi gwella’n aruthrol.