English

Tenantiaethau

Mae’r Ymddiriedolwyr yn berchen ar 48 o dai preswyl yng Nghwm Croesor.

Eiddo ar osod

Mae’n hawdd adnabod y tai hyn ar sail paent gwyrddlas Syr Clough Williams-Ellis sydd i’w weld yn rhywle ar y rhan fwyaf ohonynt. Dros y blynyddoedd, mae’r Ymddiriedolwyr wedi buddsoddi’n helaeth yn eu portffolio tai preswyl er mwyn darparu cartrefi cyfforddus a modern tra’n cydnabod y nodweddion traddodiadol a gwerinol lleol sy’n perthyn i’r rhan fwyaf o’r bythynnod.

Tenantiaeth

Caiff tai’r Ystad eu gosod i drigolion yr ardal yn unol â Pholisi Gosod Tai’r Ymddiriedolwyr. Gellir gweld copi o’r Polisi hwn trwy ddilyn y ddolen isod. Diben y polisi gosod tai yw:

  • Diogelu’r adeiladau trwy gael pobl i fyw ynddynt a’u cadw mewn cyflwr da;
  • Dod o hyd i denantiaid sy’n awyddus i gyfrannu at y gymuned ac sy’n meddu ar sgiliau a fydd yn eu galluogi i ategu nodau’r Elusen yn yr ardal;
  • Dal gafael ar bobl (yn cynnwys pobl ifanc) yn yr ardal;
  • Cynnal y patrwm ieithyddol.

Caiff rhenti’r bythynnod eu gostwng er mwyn cydnabod dyhead yr Ymddiriedolwyr i greu cymuned wledig lewyrchus lle caiff hanes, diwylliant ac iaith eu parchu a’u hyrwyddo.

Yn gyffredinol, mae yna alw mawr am dai Ystad Brondanw, ac er mwyn cadw cofnod o’r bobl sydd â diddordeb caiff rhestr aros ei chadw.

Balfours

Fel rheol, wrth osod tai bydd yr Asiantau Rheoli yn edrych ar y rhestr aros a/neu yn hysbysebu’r eiddo’n lleol mewn papurau newydd ac ar fyrddau ‘I’w Osod’. Yr Asiantau Rheoli, mewn ymgynghoriad â’r Ymddiriedolwyr Lleol, fydd yn mynd ati i ddewis y tenantiaid.

Dylid anfon ymholiadau’n ymwneud â thai’r Ystad at asiantau’r Ymddiriedolwyr.

Ffermydd

Caiff rhan helaeth o dir Ystad Brondanw ei rannu’n ffermydd a’i osod i deuluoedd sydd, mewn ambell achos, wedi bod yn stiwardio’r tir ers cenedlaethau. Mae’r Ystad yn cynnwys tri phrif ddaliad, sef Garreg Hylldrem, Glan y Wern a Chroesor Uchaf, ynghyd â nifer o ffermydd llai. Mae gan un o’r ffermydd statws ‘organig’, tra caiff y gweddill eu rhedeg mewn modd mwy confensiynol. O gofio natur y tir, caiff y dasg o stocio anifeiliaid ei gwneud mewn modd sympathetig ac mae’r ffermydd yn cynnal bridiau brodorol fel Gwartheg Duon Cymreig a Defaid Mynydd Cymreig.

Polisi’r Ymddiriedolwyr o ran gosod tai ar Ystad Brondanw

Trefniadau cyswllt rhwng yr ymddiriedolwyr, yr asiantau rheoli a’r tenantiaid

1. Cefndir
Yn ôl y Ddeddf Elusennau, rhaid i’r Ymddiriedolaeth ddefnyddio’r arian sydd ar gael iddi yn y ffordd orau bosibl. Mae Cyfansoddiad yr Ymddiriedolaeth yn nodi amcanion elusennol yr ymddiriedolaeth, sy’n cynnwys y canlynol:-

Hyrwyddo’r arfer o ddiogelu tiroedd hardd neu diroedd o ddiddordeb hanesyddol, ecolegol neu wyddonol, ynghyd â gwarchod, diogelu a chyfoethogi agwedd naturiol, cymeriad, amgylchedd, bioamrywiaeth ac amwynderau’r Ardal;

Hyrwyddo mynediad cyhoeddus cyfrifol i gefn gwlad, darparu llwybrau a ffyrdd i’r diben hwnnw a diogelu llwybrau troed, tiroedd comin a thiroedd gwastraff;

Hyrwyddo’r arfer o ddiogelu ac ailsefydlu gerddi a thirweddau dyluniedig o ddiddordeb cenedlaethol, hanesyddol neu artistig, ynghyd â mynediad cyhoeddus i erddi a thirweddau o’r fath a mwynhad ohonynt;

Hyrwyddo’r arfer o ddiogelu ac adfer adeiladau o ddiddordeb cenedlaethol, hanesyddol, pensaernïol neu artistig, ynghyd â mynediad cyhoeddus i adeiladau o’r fath a mwynhad ohonynt, a chynyddu amwynderau adeiladau o’r fath a’u hamgylchoedd adeiledig a naturiol;

Hyrwyddo cadwraeth y dirwedd wledig (yn cynnwys diogelu ac adfer adeileddau a safleoedd sy’n rhan o’r dirwedd honno ac sydd o ddiddordeb hanesyddol, pensaernïol neu artistig, neu o werth amwynderol), cadwraeth planhigion ac anifeiliaid, dulliau cynaliadwy mewn perthynas ag amaethyddiaeth, coedwigaeth a mentrau eraill sy’n ategu cadwraeth o’r fath, ac ymchwilio i’r elfennau hyn a chyhoeddi canlyniadau defnyddiol;

Hyrwyddo astudiaeth ac addysg, yn arbennig mewn meysydd sy’n berthnasol i’r Ardal, fel hanes lleol, diwylliant Cymru, ecoleg, gwyddor ddaearegol, gwyddor fiolegol a gwyddorau perthynol, ac ymchwilio i’r elfennau hyn a chyhoeddi canlyniadau defnyddiol.

2. Cyflwyniad
Mae’r Ymddiriedolwyr yn berchen ar oddeutu 50 o unedau preswyl a leolir yn, ac o amgylch, Llanfrothen a Chwm Croesor. Nid yw hyn yn cynnwys Portmeirion.

Nod yr Ymddiriedolaeth yw datblygu ei hamcanion cadwraethol yn yr ardal trwy gyfrwng ei pholisïau gosod tai, sy’n anelu at wneud y canlynol::

  • Diogelu’r adeiladau trwy gael pobl i fyw ynddynt a’u cadw mewn cyflwr da;
  • Dod o hyd i denantiaid sy’n awyddus i gyfrannu at y gymuned ac sy’n meddu ar sgiliau a fydd yn eu galluogi i ategu nodau’r Elusen yn yr ardal;
  • Dal gafael ar bobl (yn cynnwys pobl ifanc) yn yr ardal;
  • Cynnal y patrwm ieithyddol.

3. Polisi’r Ymddiriedolwyr ar Osod Bythynnod

Yn Ystad Brondanw, pan fo cymunedau sydd â chysylltiadau hanesyddol gyda’r Ystad wedi ennill eu plwyf, caiff polisïau arbennig eu rhoi ar waith pa bryd bynnag y bo modd er mwyn sicrhau y gall pobl leol barhau i fyw yno.

Yn gyffredinol, mae yna alw mawr am dai Ystad Brondanw, ac er mwyn cadw cofnod o’r bobl sydd â diddordeb caiff rhestr aros ei chadw.

Fel rheol wrth osod tai, bydd yr Asiantau Rheoli yn edrych ar y rhestr aros a/neu yn hysbysebu’r eiddo’n lleol mewn papurau newydd ac ar fyrddau ‘I’w Osod’. Yr Asiantau Rheoli, mewn ymgynghoriad â’r Ymddiriedolwyr Lleol, fydd yn mynd ati i ddewis y tenantiaid. Ystyrir y ffactorau canlynol cyn cymhwyso’r dull dilyniannol a nodir ar y diwedd:-

  1. Unrhyw gysylltiad â’r Ystad, e.e. merch neu fab tenant presennol, neu unigolyn lleol sy’n symud yn ôl i’r ardal ar ôl bod yn y coleg neu’n gweithio i ffwrdd.
  2. Yr angen i adleoli tenantiaid presennol yr Ystad sy’n dymuno symud i dŷ mwy neu i dŷ llai am resymau ymarferol.
  3. Cyfraniad yr ymgeisydd a’i deulu at gymunedau Llanfrothen a Chroesor, a’i gysylltiad â’r cymunedau hynny.
  4. Y bobl hynny ar y rhestr aros a chanddynt deulu sy’n byw ar yr Ystad neu yn y dyffryn.
  5. Y bobl hynny ar y rhestr aros a chanddynt gysylltiadau teuluol â’r Ystad neu’r dyffryn.
  6. Polisi’r Ymddiriedolwyr o geisio annog pobl gyflogedig neu hunangyflogedig i ymgeisio.
  7. Gallu’r unigolyn i dalu’r rhent, costau rhedeg yr eiddo a’r costau atgyweirio a ysgwyddir gan y tenant ac ati. (Fel arfer, bydd angen tystlythyrau ariannol i gadarnhau hyn.)
  8. Pa mor addas yw’r tŷ i anghenion y tenant a’i deulu, h.y. ei faint, garej, gardd ac ati.
  9. Yr angen i’r tenantiaid fod yn sympathetig tuag at nodau’r Ymddiriedolwyr o ran diogelu cymeriad yr eiddo.

Y drefn safonol yw y dylid rhoi dull dilyniannol ar waith fel a ganlyn:

  • Lleol ac yn gallu siarad Cymraeg
  • Cysylltiad lleol ac yn gallu siarad Cymraeg
  • Yn gallu siarad Cymraeg ond heb gysylltiadau lleol
  • Lleol ond ddim yn gallu siarad Cymraeg
  • Cysylltiadau lleol ond ddim yn gallu siarad Cymraeg
  • Unrhyw un arall nad yw’n perthyn i’r categorïau uchod ond a fyddai, ym marn yr Ymddiriedolwyr lleol, yn gwneud tenant da ac yn integreiddio’n llwyr i’r gymuned leol.

Mae ‘lleol’ yn golygu unigolyn sydd wedi byw’n ddi-dor yn ardal yr Ystad, neu o fewn 5 milltir i’w therfynau, ers pum mlynedd o leiaf.


Lawrlwythwch: Polisi Gosod Tai Ystad Brondanw

Rai blynyddoedd yn ôl, cydnabu’r Ymddiriedolwyr y diffyg cysywllt rhwng y rhai a oedd yn ddi-waith ac a gâi fudd-daliadau a’r rhai a oedd mewn gwaith ond a gâi gyflogau isel ac a oedd, o’r herwydd, yn anghymwys i gael cymorth gan yr Awdurdod Lleol. Roedd yr Ymddiriedolwyr o’r farn fod y garfan olaf dan anfantais, ac o’r herwydd aethant ati i sefydlu Cynllun Ad-daliad Rhent arloesol. Caiff y cynllun ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd, yr Awdurdod Lleol, ar ran yr Ymddiriedolwyr ar y cyd ag asiantau’r Ymddiriedolwyr. Cafodd Cyngor Gwynedd ei gynnwys yn y cynllun er mwyn sicrhau didueddrwydd llwyr. Mae’r cynllun yn cynnig ad-daliad rhent o hyd at £20 yr wythnos i denantiaid cymwys.

Ar gyfer tenantiaethau ac ad-daliad rhent:
I wneud cais am denantiaeth ar gyfer un o dai Ystad Brondanw, neu i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Ad-daliad Rhent yr Ystad, cysylltwch â Frances Steer neu Richard Jones-Perrott yn Balfours.

Frances Steer: francessteer@balfours.co.uk

Richard Jones-Perrott: richardjones-perrott@balfours.co.uk

Ffôn: 01743 241181.