Dydy gerddi Plas Brondanw ddim mor enwog â rhai Portmeirion efallai, ond dyma gampwaith mwyaf rhyfeddol Clough ym marn llawer.
Ac yntau’n swatio yng nghanol copaon mynyddoedd, Plas Brondanw yw un o gyfrinachau gora’r Gogledd. Er ei fod yn llai enwog na phentref a gerddi Portmeirion, mae llawer o’r farn mai gerddi rhestredig Gradd I Plas Brondanw yw creadigaeth bwysicaf Clough Williams-Ellis.
Aeth Syr Clough ati i greu tirwedd gerddi unigryw ac arbennig sy’n cynnig cyfres o olygfeydd godidog a rhamantaidd o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r gerddi wedi’u gosod ar ffurf cyfres o ystafelloedd caeëdig a gysylltir gan olygfeydd echelinol sy’n arwain at gopaon yn y pellter. Oddi mewn i ystafelloedd y gerddi ceir darnau o gelf a cherfluniau anarferol. Mae nifer ohonynt yn weithiau pensaernïol a achubwyd gan Clough mewn gwerthiannau adfer.
Ac yntau wedi’i ysbrydoli gan erddi’r Eidal o gyfnod y Dadeni, mae dylanwad pensaernïol cryf i’w weld ar y gerddi: waliau cerrig, tocwaith, pyllau, ffynhonnau a rhodfeydd coed sy’n tywys y llygad at y dirwedd fenthyg ddramatig y tu hwnt i’r gerddi.
Mae’r nodweddion eraill yn cynnwys llwybr coetir â llu o nodweddion trawiadol wedi’i leoli ym mhen pellaf rhodfeydd coed hardd, rhaeadr ysblennydd a phwll wedi’i greu mewn hen chwarel. Daw’r llwybr i ben wrth ymyl ffug-dŵr a adeiladwyd i ddathlu priodas Clough ym 1915, lle ceir golygfeydd 360° godidog o’r mynyddoedd a’r môr.
Nid gardd yn llawn blodau lliwgar neu forderi iraidd mo Plas Brondanw – yn hytrach, mae’n ardd sydd wedi’i seilio ar strwythur ffurfiol a golygfeydd bwriadol o’r mynyddoedd oddi amgylch. Felly, er bod mwy o liwiau i’w gweld yn ystod misoedd yr haf, nid yw naws yr ardd yn newid trwy’r tymhorau. Strwythur mawreddog y gwrychoedd, y tocwaith a’r coed (mae gennym dderwen fythwyrdd - Quercus ilex - hynod drawiadol sydd dros 200 oed), y bensaernïaeth a’r golygfeydd benthyg o’r dirwedd oddi amgylch – dyma’r nodweddion sy’n gwneud yr ardd hon yn bwysig. Dim ond addurniadau yw’r blodau.
Bydd yr holl elw a’r rhoddion yn mynd tuag at gynnal a chadw’r gerddi.
Dyddiau ac amseroedd agor
Gerddi: Ar agor bob dydd 10.00 – 16.00 pan mae’r caffi ar gau, sganiwch y cod QR ar yr arwydd ar flaen y prif giât.
Caffi: Ar agor mis Mawrth – mis Hydref, Dydd Mawrth – Dydd Sul 10.00 – 16.00
Y Plas/Oriel: Ar agor gydol y flwyddyn, Dydd Mercher – Dydd Sul 10.30 – 16.30
Cŵn
Mae gennym bolisi ‘dim cŵn’ ym Mhlas Brondanw. Er hynny, mae croeso i chi fynd â’r ci am dro yng ngardd y coed – mae’r giât gyferbyn â’r caffi.
Cost
Oedolyn: £7.50
Plentyn: £1.00
Mynediad am ddim i ofalwyr sy’n dod gyda’r sawl sydd dan eu gofal.
Aelodaeth / gostyngiadau
Maes parcio
Mae yna faes parcio ym Mhlas Brondanw, a grëwyd yn 2021, sy’n rhad ac am ddim i ymwelwyr â’r Plas. Does dim cyfleusterau gwefru cerbyd trydan yma – yr un agosaf yw:
Caffi Bwlch Moch
Tremadog A498, Ffordd Prenteg
Porthmadog
LL49 9SN
Mae Gerddi Plas Brondanw ym Mharc Cenedlaethol Eryri ger pentref Garreg, Llanfrothen, Gwynedd, 5 milltir o Borthmadog. Dilynwch yr arwyddion brown.
Gerddi Plas Brondanw Gardens
Llanfrothen
Gwynedd
LL48 6SW
Ffôn: 01766 772772
E-bost: enquiries@plasbrondanw.com