English

Oriel Brondanw

Mae Plas Brondanw ar hyn o bryd yn gartref i Oriel Brondanw, sef oriel gelf a gaiff ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis Foundation (YSWEF).

Roedd Susan yn ferch i Clough ac Amabel Williams-Ellis, ac yn gyd-sylfaenydd Crochendy Portmeirion, ynghyd â’i gŵr, Euan Cooper Willis. Mae YSWEF yn bodoli er mwyn gwarchod a hyrwyddo ei gwaddol celfyddydol, arddangos gwaith arlunwyr cyfoes lleol a meithrin y celfyddydau’n fwy cyffredinol yn y fro.

Dilynwch y ddolen i wefan YSWEF i gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau am arddangosfeydd ac ati.

Mae Plas Brondanw yn enwog nid yn unig fel cartref i bensaer disglair Portmeirion ond hefyd am y gerddi trawiadol a grëwyd ganddo yno. Erbyn heddiw, mae’r tŷ a’r gerddi dan ofal ymddiriedolaeth.

Caiff Oriel Brondanw, y man artistig oddi mewn i Blas Brondanw, ei rhedeg gan ymddiriedolaeth ar wahân sy’n hyrwyddo celf fel dull o ddathlu bywyd artistig Susan Williams-Ellis, symbylydd Crochendy Portmeirion. Merch i Clough Williams-Ellis a’r awdur Amabel Williams-Ellis (Strachey gynt) oedd Susan, a Phlas Brondanw oedd ei chartref teuluol.

Gyda’i ystafelloedd bychain, agos atoch, y golau naturiol a’r dirwedd oddi allan, mae’r Plas yn lle rhyfeddol a hynod i leoli oriel. Gellir priodoli rhywfaint o hyn i’r gwaith o ailadeiladu adain o’r ail ganrif ar bymtheg wedi tân trychinebus ym 1951, ond hefyd i ystafelloedd y bwtres a ychwanegwyd at yr hen dŷ gan Clough yn y 1930au fel ffordd gain o ddelio â’r ymsuddiant.

Manylion cyswllt

Y Curadur
Oriel Brondanw
Plas Brondanw
LLanfrothen
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6SW


Ffôn
: 01766 770590
E-bost: post@susanwilliamsellis.org
Gwefan: www.orielbrondanw.org

Oriel Brondanw